Ffit Cymru - Soffa i 5K

About

About Ffit Cymru - Soffa i 5K

Mae cynllun cardio Rae yn raglen i’ch gael chi o’r soffa i 5km mewn gyfnod oddeutu 6 wythnos.
Mae’r cynllun yn cynnwys cerdded a jogian/rhedeg mewn ysbeidiau (intervals). Maent yn ysbeidiau cynyddol – i chi allu canolbwyntio ar yr amser y’ch chi’n gallu jogain/rhedeg, ac nid o angenrheidrwydd, y pellter. Wrth i chi gynyddu ar eich cyflymdra yn ystod yr amserau jogian/rhedeg fe fyddwch yn naturiol yn gwella ar eich pellter.
Byddwch yn gwneud 3 diwrnod cardio yr wythnos os y’ch chi’n dilyn cynllun un o’n pump arweinydd (yng nghyd â’u cynllun ymwrthiant). Ac felly fe fyddwch yn adeiladu ar eich ffitrwydd ‘ach cryfder dros yr wythnosau nesaf fel y’ch chi’n gallu cwblhau’r 5km. Mae’r cynllun yn gweithio! Rhowch ffydd ynddi! Ac ewch amdani!

Cyn i chi ddechrau, cadwch mewn côf:
• Os oes gennych unrhw amheuon am eich lefel ffitrwydd, ymgynghorwch gyda’ch GP cyn i chi gychwyn ar unrhyw gynllun ffitrwydd.
• Prynnwch bâr o dreinyrs adddas. Mae pâr o dreinyrs da yn golygu gwahaniaeth mawr i’ch ymarferion, yn ewedig wrth i chi fynd at y cynllun soffa i 5km.
• Cynheswch y corff cyn ymarfer, a’i thawelu ar ôl.
• Eleni, am y tro cyntaf, mae yna gyfle i chi ddefnyddio ein podlediad Soffa i 5km. Yr un gyntaf yn y Gymraeg erioed! Os nad ydych am ei defnyddio, defnyddiwch wats neu’ch ffôn i amseru eich ysbeidiau’n gywir.
• Ymarferwch gyda ffrind fel y’ch chi’n gallu cefnogi eich gilydd.
• STOPIWCH yn syth os oes gennych boen.
• Cofiwch y Prawf Siarad – os y’ch chi’n gallu siarad yn iawn, a dim allan o anadl, so chi’n gweithio’n digon caled.

Ffit Cymru - Soffa i 5K on social media